Neidio i'r cynnwys

Bildungsroman

Oddi ar Wicipedia
Bildungsroman
Enghraifft o'r canlynolnovel genre Edit this on Wikidata
Mathffilm glasoed, nofel Edit this on Wikidata
Prif bwncdod i oed Edit this on Wikidata

Mewn beirniadaeth lenyddol, genre llenyddol sy'n canolbwyntio ar dwf seicolegol a moesol y prif gymeriad o blentyndod i fod yn oedolyn yw'r Bildungsroman (ynganiad Almaeneg: [ˈbɪldʊŋs.ʁoˌmaːn]. Deillio'r enw o'r geiriau Almaeneg Bildung ("addysg") a Roman ("nofel"). Bathwyd y gair yn 1819 gan yr ieithegydd Johann Karl Simon Morgenstern.

Rhennir y Bildungsroman yn aml yn dair rhan ac yn dilyn y cynllun "blynyddoedd ieuenctid – blynyddoedd crwydro – blynyddoedd meistr". Mae hyn i'w weld yn nofel Wilhelm Meisters Lehrjahre ("Prentisiaeth Wilhelm Meister", 1795–6) gan Johann Wolfgang von Goethe a ystyrir y nofel yn brototeip o'r Bildungsroman Almaenig.

Ceir nifer o amrywiadau ac is-genres o Bildungsroman, gan gynnwys

  • yr Entwicklungsroman ("nofel ddatblygiad"), sy'n canolbwyntio ar dyfiant cyffredinol yn hytrach na hunanddiwylliad
  • yr Erziehungsroman ("nofel addysg"), sy'n canolbwyntio ar hyfforddiant ac addysg ffurfio
  • y Künstlerroman ("nofel artist"), sy'n ymwneud â datblygiad artist

Enghreifftiau

[golygu | golygu cod]