Afon Lliedi
Gwedd
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.7233°N 4.164°W |
Tarddiad | Cynheidre |
Aber | Cefnfor yr Iwerydd |
Afon fechan yn Sir Gaerfyrddin yw Afon Lliedi. Ei hyd yw tua 6 milltir.
Gorwedd ei tharddle ger pentref Cynheidre ar lethrau Mynydd Sylen ger Llannon yn ne-ddwyrain Sir Gaefyrddin. Llifa i gyfeiriad y de dros y gwastadeddau gan ffurfio dau lyn bychan ar ei thaith, sydd yn cyflenwi dwr i dref Llanelli, sef Cronfa Uwch Lliedi a Chronfa Is Lliedi. Ar ôl llifo heibio i bentref Felinfoel mae'n cyrraedd tref Llanelli. Mae Llanelli yn gorwedd ar yr afon gyda rhan helaeth o ganol y dref yn ei gorchuddio. Mae'n cyrraedd harbwr tref Llanelli ac yn aberu yn aber afon Llwchwr, ym Mae Caerfyrddin.