Afon Cerdin
Gwedd
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.058467°N 4.316206°W |
Afon yn ne Ceredigion, Cymru, yw Afon Cerdin.[1] Mae'n llifo am tua 10 milltir o'i tharddle ger Capel Cynon i'w chymer ar Afon Teifi ger Llandysul.
Tardda'r afon yn y bryniau ger Capel Cynon, tua 290 meter i fyny.[2] Mae'n llifo i gyfeiriad y de gan fynd heibio i safle bryngaer Dinas Cerdin, a enwir ar ôl yr afon, ger Ffostrasol. Wedyn mae'n troi i gyfeiriad y de-orllewin heibio i bentref Tregroes a thrwy Fforest Cerdin i'w chymer ar Afon Teifi tua hanner milltir i'r gogledd-ddwyrain o Landysul.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Afon Cerdin", Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol; adalwyd 23 Ionawr 2023
- ↑ Map OS 1:50,000 Taflen 145