Neidio i'r cynnwys

Seidr

Oddi ar Wicipedia
Ni chefnogir y fersiwn argraffadwy bellach ac efallai y bydd gwallau rendro. Diweddarwch eich nodau tudalen a defnyddiwch y nodweddion argraffu arferol yn eich porwr.
Seidr
Mathdiod alcoholig wedi'i eplesu, diod ffrwythau, alcoholig Edit this on Wikidata
Lliw/iaumelyn Edit this on Wikidata
Deunyddafal, burum, afal gwneud seidr Edit this on Wikidata
GwladSbaen, Ffrainc, yr Almaen, Cymru Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Hen wasg seidr yng Nghwm-iou, Sir Fynwy.
Escanciador yn Asturias, Sbaen.

Diod acoholig a wneir o sudd afalau yw seidr fel rheol, er bod modd gwneud diod debyg yn defnyddio gellyg hefyd. Gellir defnyddio unrhyw fath ar afal, ond tyfir rhai mathau arbennig yn benodol ar gyfer gynhyrchu seidr. Gall y ddiod gynnwys rhwng 3% ac 8.5% o alcohol.

Un o brif ardaloedd cynhyrchu seidr y byd yw Cernyw a De-orllewin Lloegr. Ar un adeg, roedd rhannau o ddwyrain Cymru yn enwog am ei seidr, ond daeth y traddodiadd i ben yn ystod yr 20g. O ddechrau'r 21ain ganrif, bu adfywiad, gyda nifer o gynhyrchwyr seidr Cymreig yn datblygu. Mae Llydaw, Normandi, Gwlad y Basg ac Asturias yn Sbaen hefyd yn enwog am ei seidr.

Yn Llydaw, daw'r seidr yn aml mewn cwpan neu fowlen (Llydaweg bolenn) yn hytrach na gwydryn.

Ceir y cyfeiriad cyntaf ato yn Gymraeg mewn cywydd gan Iolo Goch.[1]

Cîfio

Ceir gwahanol ffyrdd o facsu seidr. Un dull yw'r dull cîfio sy'n defnyddio dim ond sudd yr afal. Mae'r dull yma yn boblogaidd yn Llydaw a Normandi ac yn seiliedig hefyd ar hen ddull yng Lloegr. Daw'r cair 'cîfio' o'r Saesneg, keeving. Dyma'r dull a ddefnyddir gan Seidr y Mynydd i greu eu seidr.

Cyfeiriadau

  1. Cider Making in Wales John Williams-Davies Amgueddfa Werin Cymru 1984

Dolenni allanol