Oes aur
Enghraifft o'r canlynol | myth, literary topos, cyfnod hanesyddol ffuglenol |
---|---|
Math | oes |
Rhan o | Ages of Man |
Olynwyd gan | Silver age |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yr Oes aur ym mytholeg Roeg oedd y cyfnod pan lywodraethid ar y duwiau gan y Titan Cronos, wedi iddo diorseddu ei dad, Ouranos. Daeth i ben pan ddiorseddwyd Cronos gan ei fab, Zeus, gan ddod a chyfnod y Titaniaid i ben.
Y brif ffynhonnell ar gyfer y syniad yw'r bardd Hesiod, tua'r 8fed ganrif CC. Dywed fod pedair oes wedi bod cyn yr oes bresennol. Yr oes aur oedd y gyntaf, a dilynwyd fi gan yr oes arian, yr oes efydd a'r oes haearn. Yn ystod yr oes aur, roedd heddwch, ac nid oes angen cyfraith gan fod pawb yn rhinweddol. Nid oedd henaint nag afiechyd, ac roedd y ddaear yn cynhyrchu digonedd o fwyd.
Ceir syniad tebyg mewn mytholeg Hindwaidd, a defnyddir "oes aur" am unrhyw gyfnod lle roedd lwyddiant arbennig, er enghraifft Oes Aur y Môr-Ladron.