Neidio i'r cynnwys

Baner Gini Bisaw

Oddi ar Wicipedia
Ni chefnogir y fersiwn argraffadwy bellach ac efallai y bydd gwallau rendro. Diweddarwch eich nodau tudalen a defnyddiwch y nodweddion argraffu arferol yn eich porwr.
Baner Gini Bisaw, cymesuredd, 1:2

Mabwysiadwyd baner Gini Bisaw (hefyd baner Guinea Bissau) ar 30 Mehefin 1911 a'i hadfer ar 23 Medi 1973 wedi i'r gyn-drefedigaeth Portwgeaidd ennill annibyniaeth. Lleolir Gini Bisaw yng ngorllewin Affrica. Cyfeirir ato yn yr iaith Portiwgaleg (iaith swyddogol y wlad er gwaethaf annibyniaeth) fel: Bandeira das Quinas (Baner y Pum Sgwâr) a Bandeira Verde-Rubra (Baner Werdd-Goch).

Dyluniad

Fel hen faner Cabo Verde, mae'r faner yn seiliedig ar faner y Blaid Affricanaidd ar gyfer Annibyniaeth Gini a Cabo Verde (PAIGC). Sefydlwyd y blaid ym 1956 i ymgyrchu'n heddychlon dros annibyniaeth o Bortiwgal yn ystod ei chyfundrefn Estado Novo, ond trodd i wrthdaro arfog yn y 1960au ac roedd yn un o geidwaid Rhyfel Annibyniaeth 1963-74 Guinea-Bissau. Mae'n dal i fod yn brif blaid Guinea-Bissau. Deilliodd baner blaid PAIGC o un Ghana, sef y cynllun cyntaf i ddefnyddio'r cyfuniad Pan-Affricanaidd o goch, melyn, gwyrdd, a du yn 1957.

Fel baner Ghana, mae'r seren ddu yn sefyll am undod Affrica. Mae coch yn sefyll dros y sied waed yn ystod y frwydr dros annibyniaeth, mae melyn yn sefyll dros yr haul, ac mae gwyrdd yn cynrychioli gobaith.

Mae'r faner yn cynnwys y lliwiau Pan-Affricanaidd traddodiadol o aur, gwyrdd, coch, a hefyd Seren Ddu Affrica. Mae baner Ghana yn dylanwadu'n drwm ar gynllun y faner. Mae gan y lliwiau yr un ystyr: yn benodol, mae'r coch ar gyfer gwaed merthyron, gwyrdd ar gyfer coedwigoedd, ac aur am gyfoeth mwynau.

Mae ymyl goch y faner un trydydd o led y faner a'r haneri melyn a gwyrdd, union hanner hyd y faner.[1]

Baner Cabo Verde

Yn dilyn y frwydr dros annibyniaeth oddi ar Portiwgal, bwriadwyd uno Gini Bisaw gydag un arall o drefedigaethau Affricanaidd Portiwgal, sef Cabo Verde. Roedd baner gyntaf Cabo Verde annibynnol bron union yr un peth ag un Gini Bisaw, ond bellach mae baner Cabo Verde yn dra wahanol.

Oriel

Gweler Hefyd

Gweler Hefyd

Gweler hefyd Baner Cymuned Gwledydd yr Iaith Portiwgaleg y mae Gini Bisaw yn aelod ohoni.

Dolenni

Cyfeiriadau

Nodyn:Eginyn Gini Bisaw