Athenaeus
Gwedd
Athenaeus | |
---|---|
Ganwyd | c. 170 Naucratis |
Bu farw | 223 |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | llenor, areithydd, bardd |
Adnabyddus am | Deipnosophistai |
Gramadegydd yn yr oes Helenistaidd oedd Athenaeus (Groeg: Ἀθήναιος ; bl. 200 OC) a ysgrifennodd y symposiwm Deipnosophistai ("Gwledd y Soffyddion").
Ganed yn Naukratis, yr Aifft. Ymgom wedi ei lleoli mewn gloddest aristocrataidd yw Deipnosophistai sydd yn portreadu cylch o ddysgedigion, gan gynnwys hynafgwyr go iawn megis Galen, yn trafod bwyd a phynciau eraill. Rhennir yr hyn sydd yn goroesi o'r gwaith yn 15 llyfr, ac mae'n debyg yr oedd yn hirach ar ei ffurf wreiddiol. Mae'n cynnwys nifer o ddyfyniadau o weithiau diflanedig, anecdotau am lenorion hynafol, a disgrifiadau diddorol o fywyd y byd Groeg-Rufeinig. Dyfynnir bron 800 o awduron, gan gynnwys telynegwyr, comedïwyr, ac hanesyddion.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ (Saesneg) Athenaeus. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Ionawr 2021.