Arianneg
Enghraifft o'r canlynol | disgyblaeth academaidd, pwnc gradd, function, arbenigedd, maes astudiaeth |
---|---|
Math | business management, banking, finance and investment studies |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gwyddor codi cyllid a'i wario yw arianneg.[1] Mae unigolion, cwmnïau, a llywodraethau yn benthyg neu'n gwerthu ecwiti os nad oes digon o gyllid ganddynt i dalu am wariannau, i dalu dyledion, neu ar gyfer gweithrediadau ariannol eraill. Mae cynilwyr a buddsoddwyr yn cronni cyllid i ennill llog neu ddifidendau. Yn ganolog i faes arianneg mae'r broses o symud cyllid ar ffurf credyd, benthyciadau, neu gyfalaf buddsodd i endidau economaidd sydd angen cyllid neu fydd yn gwneud defnydd da ohono. Gelwir sefydliadau sy'n symud cyllid o gynilwyr i ddefnyddwyr yn ganolwyr ariannol, ac maent yn cynnwys banciau masnachol, banciau cynilo, cymdeithasau cynilo a benthyg, undebau credyd, cwmnïau yswiriant, cronfeydd pensiwn, cwmnïau buddsoddi, a chwmnïau ariannol.[2]
Cyfeiriadau
- ↑ arianneg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 17 Tachwedd 2014.
- ↑ (Saesneg) finance. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Tachwedd 2014.